Archwilio Arferion Grwpio Dysgwyr mewn Ystafelloedd Dosbarth yng Nghymru

Greenway, Charlotte, Conn, Carmel, Knight, Cathryn, Thomas, David V. and Formby, Lisa (2025) Archwilio Arferion Grwpio Dysgwyr mewn Ystafelloedd Dosbarth yng Nghymru. Wales Journal of Education, 27 (1). pp. 81-109. ISSN 2059-3716

[img] Text
WURO_wje-738-greenway-Cy.pdf - Published Version
Available under License Creative Commons Attribution.

Download (731kB)

Abstract

Nid oes llawer o waith ymchwil wedi cael ei wneud ynghylch arferion grwpio dysgwyr mewn ystafelloedd dosbarth yng nghyd-destun Cymru. Nod y gwaith ymchwil archwiliadol hwn yw darparu gwybodaeth am arferion grwpio ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a phenderfyniadau addysgwyr parthed y dysgwyr hyn. Yn ogystal, ceisiodd yr astudiaeth ddod o hyd i wybodaeth am newidiadau i arferion grwpio yn ystod pandemig COVID-19, a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Casglwyd data trwy ddefnyddio arolwg ar-lein o Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd (n=102) yng Nghymru. Datgelodd y canfyddiadau mai grwpiau gallu cymysg oedd yr arfer grwpio mwyaf cyffredin ar gyfer pynciau cyffredinol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Yn debyg i’r ffigurau sydd i’w gweld mewn rhannau eraill o’r DU, roedd yr arferion grwpio dysgwyr ar gyfer y pynciau craidd yn y ddau gyfnod oedran yn seiliedig ar gyrhaeddiad. Dewiswyd ystod eang o arferion grwpio, a oedd yn cynnig cymorth ar gyfer dysgu academaidd, gyda llai o bwyslais ar ddewis dysgwyr neu grwpiau yn seiliedig ar sgiliau cymdeithasol. Roedd hyn yn wir am ddysgwyr ag ADY a dysgwyr heb ADY, ac mae’r ffigurau hefyd yn dangos cynnydd mewn arferion grwpio ar sail cyrhaeddiad ar gyfer plant iau. Cododd CADY bryderon am safon y ddarpariaeth ADY yn ystod y pandemig a’r angen i symud tuag at fwy o ymyriadau sy’n canolbwyntio ar blant ac ar sgiliau cymdeithasol. Trafodir goblygiadau’r astudiaeth ac argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Item Type: Article
Keywords: grwpiau cyrhaeddiad, anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY)
Divisions: Social and Life Sciences
Depositing User: Hayley Dennis
Date Deposited: 09 Sep 2025 11:58
Last Modified: 09 Sep 2025 11:58
URI: https://wrexham.repository.guildhe.ac.uk/id/eprint/18333

Actions (login required)

Edit Item Edit Item